Presentation by Rebecca Ferguson to Open University PGCE Students in Wales about ‘Teaching at a Distance’. Adobe Connect webinar on 11 November 2020. Translation from English by OU Wales.
2. Ymgysylltu â dysgwyr o bell
Addysgu o bell
Asesu o bell
Datblygu ymarfer o bell
Sleidiau ar gael yn slideshare.net/R3beccaF
Dylech barhau i ychwanegu eich cwestiynau at y
cyfleuster sgwrsio
4. Mae disgyblion wedi dysgu’r canlynol
• Ble i fynd…
• Beth a ganiateir…
• Ble i ganolbwyntio…
• Pwy sy’n gyfrifol…
• Ble y gallant sefyll…
• Sut i ymateb…
• Pryd y gallant siarad…
• Pryd i gymryd egwyl…
• Ble mae’r adnoddau…
…mewn ystafell ddosbarth
ffisegol
Ymgysylltu â dysgwyr
5. Mae’n bosibl eich bod wedi dysgu’r canlynol
Cyfyngiadau’r ystafell ddosbarth
• Mae dysgu yn cael ei gynnal ar
adegau penodol
• Rhaid i’r dysgu fod yn gydamserol
• Rhaid i’r athro weld y disgyblion
• Rhaid i’r disgyblion weld yr athro
• Rhaid i’r dosbarth cyfan gymryd
rhan ar yr un pryd
• Rhaid i’r dosbarth cyfan gael egwyl
ar yr un pryd
• Dylai’r disgyblion fod wedi
gwisgo’n addas
• Dylai’r disgyblion eistedd yn llonydd
• Mae technoleg yn tynnu sylw Ymgysylltu â dysgwyr
6. Gosod lle astudio
Beth yw manteision a
heriau eu
• lle ffisegol
• lle cymdeithhasol
• lle technegol
• lle amserol?
Adeiladu dros amser er
mwyn gwneud y canlynol
• cydnabod manteision
• mynd i’r afael â heriau.
Ymgysylltu â dysgwyr
7. Cymuned a hwyl
Ysgogwch ryngweithio drwy ofyn cwestiynau hwyliog megis
• Beth yw eich hoff fisged?
• Pa emoji sy’n eich cynrychioli chi?
• Disgrifiwch eich wythnos mewn tri gair.
• Pa archbŵer?
• Hoff lysieuyn?
Ymgysylltu â dysgwyr
Hawdd, cyflym, ysgafn, ddim yn datgelu gormod
Dylech annog y defnydd o fideo:
• Dangoswch eich hoff fwg
• Cuddwisgwch eich hun
• Gwisgwch het gwirion
Nid oes gan bawb fideo, lled band, catref hapus i rannu pethau
Gofynnwch i ddisgyblion greu
cwis emojis
Gemau dysgu
https://kahoot.com/
8. Dysgu sut i ddysgu o bell
Ymgysylltu â dysgwyr
https://iet.open.ac.uk/file/iet-teaching-at-a-distance-04-learning-to-learn.pdf
13. Dulliau sy’n gweithio
1. Dysgu gwrthdro
2. Addysgu yn ôl
3. Dysgu di-dor
4. Dysgu i ddysgu
5. Gwerthuso gwybodaeth
6. Gwneud ffordd o feddwl
yn weladwy
7. Dysgu am anafiadau personol
8. Gwyddoniaeth mewn labordai o bell
9. CAEAau i gefnogi dysgu ieithoedd
10. Diwylliant creu
Addysgu dysgwyrhttp://www.open.ac.uk/blogs/innovating/
14. Dysgu gwrthdro
Yn y cartref, bydd disgyblion yn
gwylio fideos, yn gwrando ar
recordiadau sain, yn darllen llyfrau
neu daflenni gwaith.
Mae’r adnoddau hyn yn caniatáu
iddynt weithio ar eu cyflymder eu
hunain, gan stopio i wneud nodiadau
yn ôl yr angen.
Bydd rhai disgyblion yn gallu cael
help a chymorth gan aelodau o’r
teulu, er na fydd pob disgybl yn gallu
gwneud hyn.
Mae’r sesiynau byw yn amser i
archwilio pynciau gyda chymorth yr
athro a chyd-ddisgyblion.
Gall y sesiynau byw gynnwys y
dosbarth cyfan, grwpiau bach neu
alwadau un i un.
Trefnwch fan lle mae’r holl
adnoddau dysgu ar gael i
ddisgyblion.
Trefnwch y dysgu yn briodol. Pa
rannau y gellir eu gwneud yn
annibynnol, pa rai y mae angen eu
cynnwys mewn sesiwn fyw a pha
rai fydd yn cynwys gwaith grŵp?
Addysgwch y sgiliau sydd eu
hangen ar ddisgyblion i ddysgu’n
annibynnol.
Adeiladwch dros amser er mwyn
helpu disgyblion i adfyfyrio ar eu
dysgu.
Addysgu dysgwyr
16. Pam asesu?
Asesu ar gyfer dysgu
Mae’n galluogi athrawon i roi adborth a thargedu dysgu ac adnoddau yn y
dyfodol i feysydd y mae angen i’r dysgwr ddatblygu mwy ynddynt.
Mae’n galluogi dysgwyr i nodi meysydd y mae angen rhoi mwy o sylw iddynt.
Asesu fel ffordd o ddysgu
Mae’n pwysleisio rôl y disgyblion – yn eu helpu i hunan-asesu ac adfyfrio.
Asesu dysgu
Mae’n cadarnhau’r hyn y mae dysgwyr yn ei wybod a’r hyn y gallant ei wneud.
Mae’n cadarnhau p’un a yw’r deilliannau dysgu bwriadedig wedi cael eu
cyflawni.
Gellir ei ddefnyddio i rancio dysgwyr / athrawon / ysgolion / meysydd /
gwledydd.
17. Cwestiynau aml-ddewis
Cwestiynau cadarnhau/rhesymu
Dechreuwch gyda datganiad a rhowch resymau pam ei fod yn gywir neu’n
anghywir. Mae angen deall yr esboniadau i gael ateb cywir.
Esbonio atebion yn fanwl
Mae’r disgyblion yn ateb y cwestiynau ac yna mae’n rhaid iddynt esbonio
pam mae’r ateb a ddewiswyd yn gywir neu’n anghywir.
Ymarferion i ysgogi’r ymennydd
Gofynnwch gwestiwn heriol y mae angen deall y pwnc sy’n cael ei astudio i’w
ateb. Gall yr atebion ffurfio’r sail ar gyfer trafodaeth ddosbarth.
Creu cwestiynau
Gofynnwch i’r disgyblion greu eu cwestiynau aml-ddewis eu hunain er mwyn
profi eu gwybodaeth am y pwnc. Dylech ystyried perthnasedd, eglurder, lefel,
yr ateb a ddewiswyd a chyfiawnhad ar gyfer atebion wrth eu graddio.
Asesu dysgwyr
18. Addysgu yn ôl
Asesu dysgwyr
Gellir recordio esboniadau ar ffurf sain neu fideo, a’u cyflwyno’n
fyw drwy ddefnyddio adnodd megis Zoom neu Adobe Connect, neu
gellir rhannu fersiynau ysgrifenedig drwy neges destun neu e-bost.
Esbonio’r pwnc i’r dysgwr
Dysgwr yn addysgu yn ôl
Os bydd dysgwr yn cael trafferth
Cadarnhau dealltwriaeth
Gellir cynnal gweithgaredd addysgu yn ôl dros y ffôn neu mewn sesiwn fyw
drwy ddefnyddio adnodd megis Zoom. Gallech ofyn i ddisgyblion greu fideo
neu recordiaid byr, neu anfon esboniad ysgrifenedig.
Rhannwch esboniad arall neu esboniad da a gyflwynwyd
gan ddisgybl arall. Rhowch sylwadau ar yr hyn sy’n gwneud
yr esboniad hwn yn un da.
Gofynnwch i’r disgyblion rannu’r ffordd y maent wedi
cymhwyso’r hyn y maent wedi’i ddysgu, cynhaliwch gwis ar-
lein, dosbarthwch gwestiynau neu gofynnwch iddynt lunio
prawf dealltwriaeth.
19. Asesiadau adnewyddadwy
Asesiadau untro
Athro yn pennu gwaith
Disgybl yn ysgrifennu ac yn cyflwyno’r gwaith
Athro yn marcio ac yn dychwelyd y gwaith
Disgybl yn edrych ar y marc, a’r adborth o
bosibl
Ni fydd neb yn edrych ar y gwaith eto
Syniadau ar gyfer asesiadau
adnewyddadwy
Ysgrifennu darn ar gyfer cylchlythyr/blog
yr ysgol
Creu adnoddau dysgu
Llunio cwestiynau astudio
Llunio rhestr o gwestiynau cyffredin am
bwnc
Llunio cwestiynau posibl ar gyfer prawf
Creu cwis
Creu fideo byr
Llunio esboniad ar gyfer disgyblion iau
Clod: Gary Chan, Unsplash
Asesu dysgwyr